Cylchlythyr Cymdeithas Eisteddfodau Cymru

1y ago
12 Views
2 Downloads
4.96 MB
8 Pages
Last View : 6d ago
Last Download : 3m ago
Upload by : Ronan Garica
Transcription

Cylchlythyr Cymdeithas Eisteddfodau CymruRhif 60Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedauMai 2022O’r diwedd! Am hanes y lluniauyma, a mwy am yr eisteddfodaucyntaf i agor eu drysau yn 2022,gweler tudalennau 4 a 5.

Bu’n dair blynedd hir iawn ers eich croesawu i’nstondin yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro2019, ac o’r diwedd gallwn ddweud ein bod ynedrych ymlaen at wneud hynny eto - yn SirDdinbych y tro hwn.Dewch â chyflenwado raglenni eicheisteddfod draw i’wharddangos ar einstondin neupostiwch bentwr atAled neu Lois.Yn eich disgwyl bydd cipolwg ar weithgareddauCymdeithas Eisteddfodau Cymru wrth i nihyrwyddo eisteddfodau lleol o bob cwr o Gymru.Cewch casglu rhaglenni eisteddfodol a rhoi cynnigar ein cystadlaethau dyddiol, heb anghofiomanteisio ar y cyfle i brynu tocyn raffl neu ddau!Felly cofiwch alw heibio i’r stondin - bydd hi’nhyfryd i’ch gweld.Pob lwc i’r holl gystadleuwyr fydd yn cynrychioli eu rhanbarthau yn ystod yrwythnos. Bu’r daith i gyrraedd y Genedlaethol yn wahanol iawn eleni, a hebos, fe fydd perfformio o flaen cynulleidfa ar faes Eisteddfod yr Urdd SirDdinbych yn brofiad arbennig. Ewch amdani, a mwynhewch!Welwn ni chi yno!26CYFLE GWYCH IHYRWYDDO EICH‘STEDDFOD!

Mae gan bob ardal ei thalentunigryw, ac eleni yn Nhregarondyma wahoddiad agored iddangos eich doniau ar stondinCymdeithas Eisteddfodau Cymru.Beth amdani? Ydych chi’n gêm?Bob dydd am 3 o’r gloch gobeithiwn weld ein llwyfan fach ar y Maes yn fwrlwm o berfformiadaubyw gan unigolion a phartïon o bob oed a chefndir, gan adlewyrchu hwyl anffurfiol y gystadleuaeth“Sgen Ti Dalent?” sy’n cael ei chynnal mewn nifer o eisteddfodau lleol ar hyd a lled Cymru.Dyma gyfle i wneud UNRHYW BETH i ddifyrru’r gynulleidfa am 5 munud neu lai, fel:Amodau:Rhaid i’r perfformiad fod yn weddus i gynulleidfadeuluol Rhaid i’r perfformiad fod yn yr iaithGymraeg neu’n ddi-iaith Cewch berfformio mwynag un eitem. Noder, bydd piano ar gael.Nid cystadleuaeth ffurfiol mo hon, ondbydd cyfle i’r gynulleidfa bleidleisio bobdydd a phenderfynu pwy sy’n deilwng o’rtocyn lluniaeth gwerth 10.Ebostiwch aled@steddfota.org neu lois@steddfota.org i enwebu eich hun, neu rywun arall, ac i gadarnhaudyddiad. Welwn ni chi a’ch talent yn Nhregaron!GALW AR HOLL LENORION IFANC CYMRU!Wyt ti wedi ennill Tlws yr Ifanc mewn eisteddfod leolneu eisteddfod rithiol ers mis Awst 2019?A fyddai diddordeb gen ti rannu a thrafod dywaith ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleniyng nghwmni hanner dwsin o gyd-enillwyrllwyddiannus eraill?Yn arwain y panel bydd y bardd, awdur a beirniado fri, Eurig Salisbury, sydd hefyd yn ddarlithyddmewn ysgrifennu creadigol.Y dyddiadau cymwys yw Awst 2019 i 30 Mehefin 2022.Gallwn drefnu tocyn mynediad i’r Maes am ddim. Cysyllta ag Aled idrafod ymhellach - aled@steddfota.org3Mae’r cyfle i anrhydeddugwirfoddolwyr o eisteddfodauledled Cymru yn agosáu, ac ry’n ni’nedrych ymlaen yn eiddgar at einseremoni arbennig yn ystodwythnos Eisteddfod GenedlaetholCeredigion yn Nhregaron.Am gopi o'r ffurflen enwebu, ewchi'n gwefan, neu cysylltwch ag Aled.COFIWCH ANFON EICHENWEBIADAU ERBYN30.6.22

Cynhaliwyd eu heisteddfodGŵyl Dewi ar y 5ed oFawrth, â’r Prifardd AneirinKaradog yn feirniad.Prif wobr yr eisteddfod oedd Cadair Goffa Pat Neill, acfe wnaethpwyd y gadair eleni gan Rhodri Jones oAbertawe (isod), sy’n fyfyriwr ail flwyddyn ar gwrsDylunio a Gwneud Dodrefn yng Ngholeg Ceredigion,Aberteifi. Cyflwynwyd y Gadair am awdl mewncynghanedd gyflawn, ar y testun “Tyfu”. Y barddbuddugol oedd Phillipa Gibson, Pontgarreg.Adroddiad gan Mair Jones (ysgrifenyddes yr eisteddfod)Do mi wnaethom fentro ac roeddem, ar y cyfan, ynhapus. Roedd y safon yn uchel iawn ond braidd ynsiomedig oeddem hefo'r nifer o gystadleuwyr, ynenwedig yn yr oedran Bl.5 a 6 a Bl.7-9.Enillodd Beatrice Roberts y gwpan am y cystadleuyddgyda’r nifer mwyaf o farciau yn adran y plant hyd atBlwyddyn 5 a 6, Lea Mererid Roberts enillodd y tlws amddatganiad ar y piano a Gwion Churchill enillodd ygwpan am y llawysgrif gorau.Yn yr adran Rhyddiaith a Barddoniaeth, Gruff Owen fu'nllwyddianus am stori ar y testun “Campio”, Lleucu HafThomas, Aberteifi, ar stori ddychmygol oedran bl.7-9,Mrs Megan Richards enillodd ar y delyneg, Alan Iwi aryr englyn a Linda Rhys (Llangernyw) ar y limerig.Mae holl ganlyniadau yreisteddfod i’w gweld ar wefanCymdeithas Ceredigion.Dydd Sadwrn, yr 16eg o Ebrill cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llangadoga’r Cylch - yr eisteddfod lwyfan gyntaf i gael ei chynnal yn y cnawd ers ypandemig.Braf oedd medru dilyn hynt a helynt y cystadlu ar ycyfryngau cymdeithasol. Diolch iddynt am rannu’r holl ganlyniadau gyda niyn ystod y dydd.Dyma flas ohonynt (mae’r gweddill i’w gweld ar ffrwd Twitter EisteddfodLlangadog):Gwynne Jones, Llanafan - enillydd yrUnawd Emyn a’r Unawd GymraegDiolch i John Davies am y llun4

Adroddiad gan Neli Jones (ysgrifenyddes yr eisteddfod)Cynhaliwyd yr eisteddfodau dros ben-wythnos Gŵyl y Bancym Mhafiliwn y Bont. Roedd yn braf cael cynnal ydigwyddiad ar ôl colli eisteddfodau 2020 a 2021 oherwydd ypandemig, a chael dod nôl i ryw fath o normalrwydd. Er ytoriad, daeth nifer dda o gystadleuwyr o’r safon flaenaf igystadlu dros y tri diwrnod, ac roedd yn hyfryd gweldcymaint o ieuenctid yn perfformio. Roedd y beirniaid,Trystan Lewis, Linda’r Hafod, Paul Carey Jones a Llio Penriyn fawr iawn eu canmoliaeth o safon uchel y cystadlu dros ypen-wythnos.Roedd yna enillydd ‘dwbwl’ i’r goron a’r gadair, sef TerwynTomos o Landudoch, sydd â chysylltiadau teuluol âLlanddewi Brefi. Mae Terwyn yn enillydd cyson yn y Bont.Ar ddechrau seremoni’r cadeirio ar y dydd Sul, talwydteyrnged i’r diweddar Selwyn Jones a fu’n ysgrifennydd yreisteddfodau ers dros 45 mlynedd, gan ei gyfaill LynEbenezer, a derbyniwyd cymeradwyaeth frwd y gynulleidfa.Derbyniwyd rhagor o deyrngedau ar ffurf barddoniaeth ganrai o feirdd y Talwrn hefyd.Dyna braf oedd clywedfod neuadd yr HenYsgol, Marian-glas, danei sang ar nos Wener y6ed o Fai, ar gyfer yreisteddfod.Dafydd Jones, cadeirydd ypwyllgor gwaith, yn wên o glusti glust wedi iddo ennill yrUnawd Alaw Werin AgoredTriawd piano o Swyddffynnongipiodd y wobr 1af yn yrEnsemble OfferynnolLois Wyn o Rydymain enilloddDlws Coffa Moc Morgan amberfformiad gorau’r noson yn‘Sadwrn y Sêr’Efan Williams, Lledrod,oedd yn fuddugol yn yrUnawd GynmraegEnillwyd y gystadleuaethLlefaru dan 25 oed gan ElinWilliams o DregaronZara Evans, Tregaronac Erin Llwyd o’r Bala,yn gydradd 1af ar y Llefarui flynyddoedd 10-13Cyflwynwyd Tlws yr Ifanci’r enillydd, Pryderi Hedd,gan Aled, CymdeithasEisteddfodau CymruTerwyn Tomos, enillydd y Gadair a’r Goron, gydamerched y Ddawns Flodau a dau ddisgybl o YsgolHenry Richard oedd yn rhan o’r seremonïauI weld llond lle o luniau’r cystadlu, mae’n werth i chifwrw golwg ar dudalen Facebook Eisteddfod IeuenctidMarian-glas. Bydd y canlyniadau i’w gweld ar eingwefan ni hefyd.Gellir gweld holl ganlyniadau’r penwythnos ymMhontrhydfendigaid ar www.steddfota.orgEdrychwn ymlaen at rannu rhagor o luniaua chanlyniadau o fyd yr eisteddfodau yn yrhifyn nesaf. Pob hwyl gyda’r cystadlu!5

Dilwyn Lewis Jones o Dywyn, a oedd ar y pryd ynathro ysgol ym Mangor, oedd enillydd y gadair ynEisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Llanelli 1975.Ond os ewch chi i bori yng nghyfrol ycyfansoddiadau a gyhoeddwyd ar ddiwedd wythnosyr eisteddfod honno, mi welwch mai enw gwahanolsy’n hawlio’r safle uchaf yng nghystadleuaeth ygadair, ac nad y gerdd fuddugol sydd wedi eichyhoeddi mewn print.– yn wir, gosodai o leiaf chwech o’r 28 oymgeiswyr yn y dosbarth cyntaf a bu’n hirbendroni yn eu cylch cyn dod i benderfyniad.Cafodd Dilwyn Lewis Jones ei hysbysu ar ddyddMawrth yr eisteddfod ei fod wedi ennill, gan olygumai ychydig iawn o amser oedd ganddo i baratoi eihun ar gyfer y cadeirio – a oedd, fel mae’ndigwydd, ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 24 oed.Siom, mae’n siŵr, oedd colli’r cyfle i weld ei waithmewn print yn y cyfansoddiadau ar ddiweddwythnos yr eisteddfod, ond cyhoeddwyd eiddilyniant o gerddi yn ei grynswth yn Y Cymro ar 3Mehefin. Mae’n gasgliad difyr sy’n defnyddio eibrofiadau fel athro yn dod i gysylltiad â phlant ogefndiroedd difreintiedig yn ei ddosbarth - y‘creithiau’ yn y testun yw’r creithiau meddyliolsy’n effeithio ar fywydau rhai o’r plant hynny.Do; bu ond y dim i’r bardd anghywir gael eigadeirio ar lwyfan Prifwyl yr Urdd ar y pnawndydd Iau hwnnw ym mis Mai 1975. Roedd y sawl ycyhoeddwyd ei enw yn y cyfansoddiadau wedigyrru cerdd i’r gystadleuaeth ar y testun‘Creithiau’, ond o ganlyniad i gamgymeriadhonedig, fe’i diarddelwyd gyda dyddiau yn unig ifynd tan y cadeirio.Roedd y gerdd a gyflwynodd yn waith bardd arall –bardd hŷn a oedd wedi ysgrifennu ar yr un testunrai blynyddoedd ynghynt. Yr honiad oedd fod ybardd ifanc wedi cael benthyg y gerdd honno, ermwyn ei darllen a chael syniad o’r modd yr oeddwedi mynd ati i archwilio’r testun. Yn dilynysgrifennu ei gerdd ei hun, roedd wedi dychwelydi’r coleg a gadael y gwaith gyda’i dad er mwyniddo’i anfon i gael ei deipio.Daw’r rhifyn hwn o Steddfota o’r wasg ar achlysurEisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych – y tro cyntaf iddifod yn eisteddfod ‘mewn cae’ ers Caerdydd 2019.Pob dymuniad da i bawb fydd yn heidio yno igymryd rhan.Ond wrth gwrs, yn rhagweladwy ddigon o wybodcanlyniad y stori anffodus hon, y gerdd anghywir aanfonwyd i’w theipio ac yna at y beirniad, arhoddwyd y gerdd gywir i’w chadw mewn ffeil yny tŷ. Pan hysbyswyd yr eisteddfod o’r amryfusedd,cynigiwyd beirniadu’r gerdd gywir yn erbyn ygwaith arall oedd wedi dod i law, ond gwrthodwydy cynnig hwnnw.Cofiwch am wefan prosiect Casglu’rCadeiriau, cadeiriau.cymru; mae cofnodionyn parhau i gael eu hychwanegu ati ynrheolaidd. Gallwch gysylltu trwy@cadeiriau ar Twitter neu Instagram, trwye-bostio iestyntyne@outlook.com, neu trwyysgrifennu ataf yn 9 Heol Elinor,Caernarfon, LL55 1PG.Yn ffodus, roedd y beirniad, Dafydd Rowlands, ynbarnu fod hon yn gystadleuaeth o safon uchel iawnYn anffodus deallwn fod rhai o’n e-bystweithiau’n cyrraedd ffeiliau sbam neusothach (junk) ambell un ohonoch.Gydag EisteddfodGenedlaethol Ceredigion(Tregaron) yn agosáu,cofiwch gadw’ch tocynnauyn saff a chysylltwch ag Aledos am ragor.6Mae gan bob cyfrif e-bost ei ffordd unigryw o hidlonegeseuon er mwyn eich diogelwch. Ond er mwyn sicrhauein bod yn medru cadw mewn cysylltiad rheolaidd â chi, afyddech gystal â gwirio eich ffolderi “sbam” neu “sothach/junk” yn achlysurol? Os digwydd bod neges gan Lois neuAled wedi cyrraedd yno, yna mater cymharol rwydd wedynyw newid eich gosodiadau i nodi bod yr e-byst yma’nddiogel. Diolch.

Rhowch gynnig ar y posau yma. Wedyn, dewch â’r daflen nôl (wedi’i chwblhau!) i stondin CymdeithasEisteddfodau Cymru, yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfle i ennill 10! Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis arddydd Sadwrn, Mehefin 4ydd. Cofiwch nodi eich manylion cyswllt isod hefyd.(i blant hyd at 13 oed)CANULLEFARUDAWNSIOENW: UYATIRAEWLLWAIFATBREIEA EWSNDCDDCELFODDBRFFODO YCHYMCRYOTPTHYCHNUMLWTSLLNRAA1.2.9.Ail-drefnwch y llythrennau i ddod ohyd i 6 lle yng Nghymru sy’n 7AR DRAWS:1. Gobaith Cymru (3)2. Rydych chi’n sefyll ar hwn i berfformio (6)4. Mewn unawd rydych yn canu (3)6. Rhaid gwisgo rhain i glocsio (8)7. Cymysgwch liw canol Mr Urdd a lliw croenbanana! (4)11. Yr offeryn sy’n cyfeilio i gerdd dant (5)12. Rhaid dysgu gwneud hyn mewn ‘steddfodhefyd! (4)14. Eleni mae ‘Steddfod yr Urdd fyny yn ygogledd, ac nid yn y de (4)I LAWR:1. Sawl “dd” sydd yn y gair “eisteddfod” (2)2. Beth yw coch, gwyn a gwyrdd? (6)3. Cymryd rhan mewn eisteddfod (8)5. Gair arall am “Llefaru” (5)6. , ail a thrydydd (6)8. Mae cyfeilydd yn eistedd wrth hwn (5)9. Yng nghaffi Mistar Urdd cewch fwyta ac (4)10. Lliw draig baner Cymru (4)13. Bydd miloedd o rhain yn ‘Steddfod yr Urdd (4)

Cofiwch gysylltu â ni cyn gynted â bydd eich eisteddfod chi wedi trefnu dyddiad fel ygallwn eich ychwanegu at y rhestr sydd ar ein gwefan. Fel y soniwyd tro diwethaf, rydymyn y broses o ddatblygu gwefan newydd a fydd gobeithio yn barod i’w lansio cyn hir, ondtan hynny, bydd rhestr eisteddfodau’r wefan bresennol yn dal i gael ei diweddaru yn ôl ygalw. Gwych yw gweld ein heisteddfodau yn ail-gydio ynddi, a rhaid llongyfarch pawb o’r trefnwyr i’r cystadleuwyr. Gwnewch bopeth allwch i’w cefnogi!20 MaiEisteddfod DihewydMeinir Lewis01570 47005021 MaiEisteddfod Gadeiriol LlandudochTerwyn Tomos01239 61292821 MaiEisteddfod Môn Bro EsceifiogLlifon Jones01248 42257328 MaiEisteddfod Llanuwchllyn (Cyfyngir i drigolion lleol)Alwyn Roberts0781845419011 MehefinEisteddfod Dyffryn Elwy, Llanfair TalhaearnElinor Davies01745 72023518 MehefinEisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy, LlanrwstDennis ac Enid Davies01492 64006025 MehefinEisteddfod Bro Aled, LlansannanSioned Hedd0778926235525 MehefinEisteddfod Y Fenni (15 oed a throsodd)Rosemary Williams01873 8118142 GorffennafEisteddfod Bro LlandegfanEdward Morris Jones01248 75141915-16 GorffennafEisteddfod Talaith a Chadair Powys, RhosllannerchrugogMarian Lloyd Jones01978 84615130 Gorff - 6 AwstEisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Tregaronwww.eisteddfod.cymru27 - 29 AwstEisteddfod Rhys Thomas James Llanbedr Pont SteffanDorian Jones01570 42267817 MediEisteddfod Gadeiriol Y TymblAnwen Evans01269 83356824 MediEisteddfod Gadeiriol LlanwrtydSusan Price01591 6103031 HydrefEisteddfod Gadeiriol TrefeglwysMargaret Jones01686 4304741 HydrefEisteddfod Bethel Melin-y-CoedAnwen Hughes01492 6402885 TachweddEisteddfod Gadeiriol Llanrhaeadr ym MochnantMenna Richards01691 780355SWYDDOG DATBLYGUAled Wyn a.orgwww.urdd.cymrualed@steddfota.org30 Mai - 4 Mehefin Eisteddfod yr Urdd Sir DdinbychSWYDDOG TECHNEGOLLois Williamslois@steddfota.org01570 423700 / 077178425568

20 Mai Eisteddfod Dihewyd Meinir Lewis 01570 470050 21 Mai Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch Terwyn Tomos 01239 612928 21 Mai Eisteddfod Môn Bro Esceifiog Llifon Jones 01248 422573 28 Mai Eisteddfod Llanuwchllyn (Cyfyngir i drigolion lleol) Alwyn Roberts 07818454190 30 Mai - 4 Mehefin Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych www.urdd.cymru

Related Documents:

JULY 2017. 2 John Puzey Director, Shelter Cymru At Shelter Cymru we believe . by Welsh Government to improve housing in Wales but there is a long way to go. . 1 The method for the survey is described in full in Affordability 2 Decent

The Chartered Institute of Housing (CIH) The Chartered Institute of Housing (Cymru) are the independent voice of housing and the home of professional standards in Wales. The aims of CIH Cymru are to equip housing professionals with the knowledge, skills and ethical grounding to deliver a safe, secure and affordable home for everyone

Prison & Probation Service (HMPPS), the Welsh Police & Crime Commissioners (PCCs), National Police Chiefs Council, Chief Fire Officers Association, Youth Justice Board (YJB) Cymru, Welsh Local Government Association (WLGA), Society of Local Authority Chief Executives (SOLACE), Community Justice Cymru (CJC) and Welsh Local Health Boards (LHBs).

Cafcass Cymru as we took decisive action and adapted our way of working in response to the COVID-19 pandemic. I am very proud of all our colleagues who have worked incredibly hard, embracing changes to the way that we work. This year, we have rapidly adapted

Lead by Tyfu Cymru, a project managed by Lantra, and with funding from the Welsh Government Cooperation and Supply Chain Development scheme, this Commercial Horticulture Action Plan for Wales outlines a multi-stakeholder, whole supply chain, approach to develop and sustain the commercial production of edible and ornamental horticulture produce in Wales for the long term.

Martin O'Neill, Athrofa Cymdeithas, Iechyd a Llesiant Caerdydd (CISHeW), Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd John Wyn Owen, Comisiwn Bevan Aaron Reeves, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain Sarah Simpson, EquiACT Ted Schrecker, Y Ganolfan Polisi ac Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Durham

Northern Ireland, Children's Commissioner for England / Children & Young People's Commissioner Scotland / Children's Commissioner for Wales / Northern Ireland Commissioner for Children and Young People. 6 Child Rights International Network (2020) The British armed forces: why raising the recruitment age would benefit everyone, London: CRIN.

archaeological resource within a particular area or 'site' in order to make an assessment of its merit in context (using the HER, historic maps and other resources) Post-excavation Assessment (PXA) It is fairly unlikely that you will need to produce one of these as they are generally a planning requirement and/or for large sites with lots of finds. A post- excavation assessment report should .