Gwneud Gwahaniaeth - NHS Wales

1y ago
9 Views
2 Downloads
1.69 MB
16 Pages
Last View : 15d ago
Last Download : 3m ago
Upload by : Madison Stoltz
Transcription

Gwneud Gwahaniaeth:Buddsoddi mewn Iechyda Llesiant Cynaliadwy i Bobl CymruCrynodeb Gweithredol2016RIP

Ynglŷn â’r Adroddiad hwnMae’r adroddiad hwn yn cynnig tystiolaeth ymchwil a barn arbenigol mewnperthynas ag atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau er mwyn cyflawnieconomi gynaliadwy, cymdeithas ffyniannus a’r lefelau iechyd a llesiantgorau posibl i’r genhedlaeth hon ac i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu’r adroddiad hwn fel rhan o’i genhadaethi ddiogelu, gwella a hyrwyddo iechyd a llesiant y bobl yng Nghymru a lleihauanghydraddoldebau iechyd.Mae’r adroddiad hefyd yn adlewyrchu cyfrifoldeb Iechyd Cyhoeddus Cymru i hysbysu, cefnogiac eirioli o blaid polisi iechyd ehangach a dulliau gweithredu ac ymyriadau traws-sector gangynnig buddiannau i’r bobl, i’r system iechyd, i gymdeithas ac i’r economi.Llywiwyd yr adroddiad gan y canlynol: Tystiolaeth ymchwil Canllawiau ac arbenigeddproffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd,polisi, astudiaethau cymdeithasol,cydraddoldeb ac economeg Blaenoriaethau Cymru ar gyfer iechyda llesiant Cyd-destun polisi ac iechyd cyfredolyng NghymruMae’r adroddiad yn cynnwys tair rhan agyhoeddir ar wahân:Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn1 Gwneud Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl Cymru- Crynodeb Gweithredol (y ddogfenhon):Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn2 Gwneud Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl Cymru- Tystiolaeth Ategol;3 Cyfres o 8 ffeithlun yn canolbwyntioar heriau iechyd allweddol i Gymru acatebion awgrymedig yn seiliedig ardystiolaeth.Nid yw’n adolygiad cynhwysfawr o iechyd y cyhoedd ond mae’n cyflwyno crynodebdethol o’r dystiolaeth ymchwil, y data a’r wybodaeth gyd-destunol a oedd ar gael aradeg datblygu’r adroddiad.ISBN 978-1-910768-32-72016 Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus CymruGellir atgynhyrchu’r deunydd a geir yn y ddogfen hon o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth ent-licence/version/3/ ar yr amod y gwneir hynny’n gywir ac na fydd ofewn cyd-destun camarweiniol.Dylid cydnabod Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.Mae hawlfraint yn y trefniant, y dyluniad a’r cynllun argraffyddol yn eiddo i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.Dylunio: Jenney Creative www.jenneycreative.co.ukh

Gwneud Gwahaniaeth:Buddsoddi mewn Iechyd aLlesiant Cynaliadwy i Bobl CymruCrynodeb GweithredolRhagairMae’r momentwm i gynnal ein hymdrechionar wneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant ygenhedlaeth bresennol a chenedlaethau’rdyfodol sy’n byw ac yn gweithio yngNghymru yn cyflymu.Rydym wedi cymryd camau breision i wella iechyd yboblogaeth. Rydym yn byw’n hirach, mae llai ohonomyn marw o heintiau ac afiechydon cronig ac maegennym wasanaethau iechyd gwell. Fodd bynnag,rydym yn dal i wynebu heriau sylweddol o ran sut ygallwn leihau’r tlodi a’r anghydraddoldebau iechydsy’n bodoli mewn rhai rhannau o Gymru. Rydym hefydyn wynebu heriau o ran sut i helpu ein poblogaethhŷn gynyddol i aros yn iach ac yn annibynnol cyhyd âphosibl; sut i atal a rheoli cyflyrau cronig yn y fforddorau a sut i baratoi ein hunain ar gyfer epidemigaunewydd a bygythiadau byd-eang i’n diogelwch a’urheoli.Mae hyn hefyd o fewn amgylchedd o heriau ariannolac economaidd sy’n golygu bod angen i ni newid,yn fwy byth, tuag at ddull gweithredu mwy hyddysgwedi’i dargedu’n well a fydd yn buddsoddi yn yr hyn agaiff yr effaith fwyaf er mwyn gwella iechyd a llesiant agalluogi iechyd, lles a thwf i ffynnu yng Nghymru.Rydym yn gwybod yn well nag erioed erbynhyn bod camau atal yn achub bywydau ac ynarbed arian ac yn cyflwyno buddiannau lluosogi’r bobl, i gymunedau ac i’r economi - mae’n gyflesylweddol i ni. Mae corff helaeth o dystiolaeth ynbodoli eisoes i gefnogi’r mathau o ymyriadau apholisïau sy’n ymdrin â’r ffactorau sylfaenol sy’nachosi afiechyd ac anghydraddoldebau ac yn arwainat well llesiant o ran meddwl, yn gorfforol ac yngymdeithasol, ac sydd hefyd yn gwella cadernid,cyflogaeth a thwf. Mae’r adroddiad hwn yn darparu’rgwaith ymchwil a’r arbenigedd ategol mwyafcyfredol ar atebion effeithiol a chynaliadwy y mae’nwerth buddsoddi ynddynt er mwyn sicrhau’r lefelauiechyd gorau posibl yng Nghymru.Nawr yw’r amser i weithredu gyda’n gilydd.Drwy ddull systemau - gan rannu ein hasedau cyfunol,gan ddilyn egwyddorion cynaliadwyedd a gofal iechyddarbodus a chan gydymffurfio â’n deddfwriaethunigryw, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol(Cymru), mae’r cyfle gennym i gydweithio ar drawssectorau a sefydliadau ac mae cyfrifoldeb arnom iwneud hynny. Mae’n hanfodol gwrando ar ein pobla’u grymuso a gwerthfawrogi asedau ein cymunedau,gan roi cyfle iddynt gymryd rhan gyfartal ym mhobpenderfyniad a chynllun ar gyfer eu bywyd, eu hiechyda’u hapusrwydd.Gyda’r adroddiad amserol hwn, hoffai IechydCyhoeddus Cymru fod yn rhan o’r ateb, hoffai lywioa chefnogi penderfyniadau a pholisïau a hoffai ymunoag ymrwymiad a chamau gweithredu ledled Cymru iwneud newid cadarnhaol tuag at ddyfodol iachach,hapusach a mwy cynaliadwy i’n pobl yng Nghymru.Dr Tracy CooperPrif Weithredwr,Iechyd Cyhoeddus Cymru1

Iechyd Cyhoeddus CymruAwduron a ChyfranwyrArweiniwyd y gwaith o ddatblygu’r adroddiad hwn gan Mariana Dyakova*. Fe’i ysgrifennwyd ganMariana Dyakova*, Teri Knight** a Sian Price** gyda chymorth Sumina Azam*, Elodie Besnier*,Alisha Davies*, Nathan Lester**, Isabel Puscas** a Malcolm Ward*. Rhoddodd Mark A Bellis* aChrissie Pickin** gyngor ac arweiniad wrth ddatblygu’r adroddiad.Grŵp arbenigol lefel uchelRydym yn ddiolchgar i’r arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol ym maes iechyd ycyhoedd, polisi, astudiaethau cymdeithasol, cydraddoldeb ac economeg a gyfarfu ym misIonawr 2016 i drafod negeseuon ac argymhellion allweddol ac i roi cyngor ar strwythur achynnwys yr adroddiad. Gwnaethant hefyd ddarparu tystiolaeth ychwanegol ac adborthyn ystod y broses o ddatblygu’r adroddiad.Eva Elliott, Athrofa Cymdeithas, Iechyd a Llesiant Caerdydd (CISHeW), Ysgol GwyddorauCymdeithasol Prifysgol CaerdyddRobin Ireland, Grŵp Anghydraddoldebau IechydMarcus Longley, Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De CymruMartin O’Neill, Athrofa Cymdeithas, Iechyd a Llesiant Caerdydd (CISHeW), Ysgol GwyddorauCymdeithasol Prifysgol CaerdyddJohn Wyn Owen, Comisiwn BevanAaron Reeves, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol LlundainSarah Simpson, EquiACTTed Schrecker, Y Ganolfan Polisi ac Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol DurhamStephen Wright, Ymgynghorydd annibynnol ym maes economeg iechydCydnabyddiaethauHoffem ddiolch o galon i’r canlynol am ddarparu tystiolaeth a sylwadau ychwanegol:Julie Bishop, Huw Brunt, Nicola Gordon, Ashley Gould, Christian Heathcote-Elliott, Rosemary Fox,Ciaran Humphreys, Dyfed Huws, Adam Jones, Angela Jones, Craig Jones, Sarah Jones, Carolyn Lester,Sue Mably, Tracy Price, Richard Roberts, Janine Roderick, Quentin Sandifer, Rob Sage, Hannah Show,Josie Smith, Robert Smith, Daniel Thomas, Angela Tinkler a Holly Walsh o Iechyd Cyhoeddus Cymru,yn ogystal â Phill Chick, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Stephen Macey, ASHCymru a Clare Bambra, Prifysgol Durham.Mae’r adroddiad hwn wedi’i gymeradwyo gan Gyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd ym mhob BwrddIechyd yng Nghymru.Cyfarwyddiaethau *Polisi, Ymchwil a Datblygiad Rhyngwladol ac **Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru2

Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl CymruPam nawr?Mae tueddiadau globaleiddio a demograffig cyfredol, costau dynolac ariannol cynyddol salwch ac anghydraddoldebau mewn iechyd, acadnoddau economaidd ac adnoddau naturiol cynyddol gyfyngedig ynbygwth cynaliadwyedd, ac iechyd a llesiant y bobl sy’n byw ac yn gweithioyng Nghymru.Mae angen newid y sefyllfa, a hynny ar fyrder gan gyflwyno atebion newydd,mwy effeithiol ac effeithlon wedi’u llywio gan dystiolaeth, arbenigedd a barn gadarn, ermwyn ymdrin â’r heriau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd gyfredol o galedi ac er mwyn sicrhaubuddiannau iechyd a buddiannau economaidd i Gymru yn y dyfodol.Gall iechyd y cyhoedd fod yn rhan o’r ateb, ar y cyd â pholisi cyhoeddus athrefniadau cyllido cyhoeddus.Darpariaeth Iechyd Cyhoeddus yng NghymruGwyddomMae’r amgylchedd economaidd,cymdeithasol a naturiol lle y cawn einmagu, lle y byddwn yn byw ac yn gweithio ynbenderfynydd pwysig o ran ein hiechyd a’nllesiant ni a’n plant – yn uniongyrchol, a thrwyein ffyrdd o fyw.Ceir tystiolaeth gref o blaid dullgweithredu ataliolMae atal - cael gwared ar y ffactorau sy’n achosiiechyd gwael ac anghydraddoldebau (yn hytrachnag ymdrin â’r canlyniadau) - yn cynnig gwerthda am arian. Mae polisïau ac ymyriadau ataliol ynachub bywydau, yn arbed arian ac yn gwella llesiantmeddwl, llesiant corfforol a llesiant cymdeithasolpobl. Maent yn dangos buddiannau byrdymora hirdymor ymhell y tu hwnt i’r systemiechyd - ar draws cymunedau, cymdeithas a’reconomi.Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ynawgrymu tri maes blaenoriaeth o rancamau ataliol:1 Datblygu cadernid gydol oes ac ardraws lleoliadauâ mathau niweidiol o2 Ymdrin ymddygiad a diogelu iechyd3 Ymdrin â phenderfynyddion iechydeconomaidd, cymdeithasol acamgylcheddol ehangachMae Cymru mewn sefyllfaunigryw i wneud gwahaniaethMae cyd-destun ffafriol o ran deddfwriaetha pholisi, gyda Deddf arloesol LlesiantCenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn cynnigcyfleoedd allweddol i weithio’n wahanol - ardraws sectorau a chyda chymunedau - i ymdrin â’rheriau iechyd, cymdeithasol ac economaidd cynyddolmewn ffordd fwy effeithiol a chynaliadwy.Pwy ddylai weithredu?Mae cyflawni iechyd a llesiant cynaliadwy i bobl Cymru yn berthnasol i bawb. Mae’n gofyn am drafodaeth,cyfrifoldeb cyffredin a chytundeb ar harneisio camau gweithredu a buddsoddiad rhwng: Gwneuthurwyr penderfyniadau agwneuthurwyr polisi mewn rolaullywodraeth genedlaethol a lleol Pob gweithiwr proffesiynol y mae ei rôl yneffeithio ar iechyd a llesiant pobl Cymunedau lleol, sefydliadau’r trydydd Uwch arweinwyr o bob rhan o’r gwasanaethausector a sefydliadau preifatcyhoeddus, y rheini â chyfrifoldebau iechyd ycyhoedd, cynllunwyr a rheolwyr3

Iechyd Cyhoeddus CymruDarpariaeth Iechyd Cyhoeddus yng NghymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diffinio trimaes gweithredu blaenoriaeth (Ffigur1) lle mae heriau ac anghenion iechyd yngNghymru yn cynyddu a lle mae ymyriadau ataliolcosteffeithiol yn bodoli. Mae’r meysydd hyn ynrhyng-gysylltiedig ac yn rhyngddibynnol,gan rannu penderfynyddion ac atebioncyffredin.Caiff atebion eu galluogi gan Ddeddf unigrywLlesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)1a’i Hegwyddor Datblygu Cynaliadwy2 ynogystal â deddfwriaeth a dulliau gweithredu eraill,megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasola Llesiant (Cymru)3, Deddf Teithio Llesol(Cymru)4, egwyddorion Gofal IechydDarbodus5 a’r cysyniad o Weithio drwySystemau (gan feithrin partneriaethau asynergeddau ar draws sectorau a rhanddeiliaid).Gall y broses ddatganoli barhaus gyflwyno mwy oddatblygiadau cadarnhaol a datgloi ffactorau ysgogiallweddol (e.e. trethiant) i leihau anghydraddoldebaua gwella llesiant pobl.Deddfwriaeth alluogiEgwyddor Datblygu CynaliadwyIntegreiddioAtalSafbwynt hirdymorDatblygucadernid gydoloes ac ar drawslleoliadauCydweithreduCyfranogiadYr anghenionmwyaf yn gyntafLleihauamrywiadauDefnyddiotystiolaethYmdrin âphenderfynyddioniechyd economaidd,cymdeithasol acamgylcheddolehangachPeidio â gwneudunrhyw niwedYmdrin â mathauniweidiol oymddygiad adiogelu iechydCydgynhyrchuDim ondgwneud yr hynsydd ei angenDim ond gwneudyr hyn mai dim ondchi all ei wneudEgwyddorion Gofal Iechyd DarbodusGweithio drwy SystemauFfigur 1. Meysydd gweithredu blaenoriaeth, wedi’u galluogi drwy weithio drwy systemau, deddfwriaeth acegwyddorion communities/people/future-generations-act/?lang ics/health/socialcare/act/?lang ills/active-travel-act/?lang cyhttp://www.prudenthealthcare.org.uk/

Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl CymruMeysydd Blaenoriaeth ar gyferCamau Gweithredu AtaliolAr gyfer pob maes blaenoriaeth, cyflwynir crynodeb o’r negeseuon allweddol,wedi’i ategu gan enghreifftiau o’r dystiolaeth. Darperir gwybodaeth a chyfeiriadau manylach yn yddogfen Tystiolaeth Ategol.Datblygu cadernid gydol oes ac ar draws lleoliadau1. S icrhau dechrau da mewnbywyd i bawbMae sicrhau iechyd da i’r fam ac amgylchedddiogel a gofalgar i blant, yn ogystal â lleihautlodi ac amddifadedd, yn hanfodol er mwynsicrhau dechrau da mewn bywyd.Yng Nghymru, mae Profiadau Niweidiolyn ystod Plentyndod, megis cam-drin plant a/neu fyw mewn cartref yr effeithir arno gan rieni yngwahanu, trais domestig, afiechyd meddwl, alcohol,camddefnyddio cyffuriau neu riant yn y carchar, yngysylltiedig â’r canlynol:- dros ½ yr achosion o drais achamddefnyddio cyffuriau- dros yr achosion o feichiogrwyddymhlith merched yn eu harddegau- bron i ¼ yr oedolion sy’n ysmygu ar hyn o brydMae nifer y marwolaethau ymhlith babanod (0-28diwrnod) yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yngNghymru unwaith a hanner yn uwch na’r nifer yn yrardaloedd lleiaf difreintiedig.Beth sy’n gweithioMae buddsoddi mewn ymyriadau cyffredinol(drwy’r boblogaeth gyfan) yn ystod yblynyddoedd cynnar6, ynghyd ag adnoddauychwanegol sy’n gymesur â’r angen i blant agoredi niwed, yn gosteffeithiol ac yn hanfodol er mwynsicrhau Cymru iach a chynhyrchiol.Ceir y potensial mwyaf i weithredu ynystod y 1000 o ddiwrnodau cyntaf o adegcenhedlu hyd at ail benblwydd y plentyn.Gallai buddsoddi mewn ymyriadau wedi’u targedua gofal plant cyffredinol ac absenoldeb rhieni âthâl helpu i ymdrin â chymaint â 72 biliwn o gostproblemau cymdeithasol megis trosedd, afiechydmeddwl, teuluoedd yn chwalu, camddefnyddiosylweddau a gordewdra i Gymru .67Diffinnir y blynyddoedd cynnar fel rhwng 0 a 7 oed.Amcangyfrifwyd o ddata’r DU ar sail heb ei addasu y pen.2. Hybu llesiant meddwl acatal afiechyd meddwlMae afiechyd meddwl yngysylltiedig ag iechydcorfforol gwaeth, cynnyddmewn ymddygiadau risgo ran iechyd, addysgwael a diweithdra.Mae’n gyfrifol am faichafiechyd ac anableddsylweddol yng Nghymruac yn arwain at gostauuchel i’r GIG, y gymdeithasa’r economi.Yng Nghymru, nododd 13% o oedoliongyflwr iechyd meddwl yn 2015 o gymharuâ 9% yn 2003/4.Amcangyfrifir fod afiechyd meddwl yn costio 7.2 biliwn y flwyddyn i gymdeithas.Mae anghydraddoldeb yn benderfynyddafiechyd meddwl allweddol ac mae afiechydmeddwl yn arwain at anghydraddoldeb pellach.Yng Nghymru, mae 24% o’r rheini sydd wedi bodyn ddi-waith ers cyfnod hir neu nad ydynt erioedwedi gweithio, yn nodi cyflwr iechyd meddwl ogymharu â 9% o oedolion mewn grwpiau rheoli agrwpiau proffesiynol.Gall profiadau cynnar mewn bywyd, megis bwlioneu gam-drin arwain at ganlyniadau hirdymor oran datblygiad plant a phobl ifanc, a chostaucysylltiedig i gymdeithas a gwasanaethaucyhoeddus.Yng Nghymru, yn 2013/14, nododd dros draean oddisgyblion eu bod wedi bod yn destun bwlio yn yrysgol yn ystod y deufis diwethaf.5

Iechyd Cyhoeddus CymruBeth sy’n gweithio?3. Atal achosion o drais acham-drinGallai buddsoddi i wella mynediad iwasanaethau iechyd meddwl ymyriad cynnararwain at arbedion sylweddol i wasanaethaucyhoeddus eraill.Mae trais yn ffactorpwysig sy’n achosi iechydcorfforol ac iechyd meddwlgwael. Mae’n effeithio argymdeithas, y gwasanaethiechyd a’r economiehangach. Ar gymunedaudifreintiedig y mae trais yneffeithio fwyaf.Gallai ymyriadau i blant a phobl ifanc, ynenwedig y rhai mwyaf agored i niwed, arwainat arbedion hirdymor drwy leihau’r risg obroblemau iechyd a phroblemau cymdeithasol athrwy wella rhagolygon cyflogaeth.Gall ymyriadau gwrth-fwlio mewnysgolion ddychwelyd 15 am bob 1 a gaiffei gwario; mae rhaglenni rhianta i atalanhwylder ymddygiad yn dychwelyd 8 dros chweblynedd am bob 1 a gaiff ei buddsoddi.Gall y ‘buddsoddiadau gorau’8 i atal afiechydmeddwl gynnwys ymyriadau a pholisïau i helpurhieni a phlant ifanc; i wella gweithleoedd;i newid ffyrdd o fyw; i ddarparu cymorthcymdeithasol ac i helpu cymunedau drwywelliannau amgylcheddol.Yng Nghymru, mae trais a cham-drin domestigyn costio 303.5 miliwn y flwyddyn iwasanaethau cyhoeddus. Mae’r costaudynol ac emosiynol yn ychwanegu 523 miliwn.Yn ôl Arolwg Profiadau Niweidiol yn ystod PlentyndodCymru, nododd 16% o’r cyfranogwyr eu bod wedigweld trais a cham-drin domestig; roedd 17% wedicael eu cam-drin yn gorfforol ac roedd 10% wedi caeleu cam-drin yn rhywiol wrth dyfu i fyny.Mae unigolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig3.7 gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbytymewn perthynas ag ymosodiadau nag unigolion yn yrardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru.Beth sy’n gweithio?Gallai lleihau achosion o drais a cham-drinarwain at arbedion sylweddol ym maes iechyda gofal cymdeithasol. Ymyriadau effeithiol, gangynnwys canolbwyntio ar blant a phobl ifanc;atal trais domestig, cam-drin a thrais yn erbynmenywod; lleihau achosion o ddefnyddioalcohol mewn ffordd niweidiol; a dulliaugweithredu amlasiantaeth.Gallai atal Profiadau Niweidiol yn ystodPlentyndod a gwella cadernid a ffactorauamddiffynnol i blant leihau achosion o draisymhlith oedolion 60%.Gallai gwella iechyd meddwl yn ygweithle, gan gynnwys atal a nodi problemauyn gynnar, arwain at arbedion blynyddol o 250,607 i sefydliad â 1000 o gyflogeion.896Gallai gweithredu Canllawiau NICE9 ar Drais aCham-drin Domestig arbed 4,700 y mis fesulperson ar gostau tymor hwy sy’n gysylltiedig â thrina helpu unigolyn sydd wedi profi anhwylder straenwedi trawma o ganlyniad i drais a cham-drin.Ystyried costeffeithiolrwydd, costau gweithredu a dichonoldebSefydliad Cenedlaethol y DU dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal

Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl CymruYmdrin â mathau niweidiol o ymddygiad a diogelu iechyd4. Lleihau nifer yr unigolionsy’n ysmyguYsmygu yw’r ffactorunigol mwyaf y gellirei atal sy’n achosiafiechyd a marwolaethyng Nghymru gydachostau uchel i’rGIG, cymdeithas a’reconomi.Yng Nghymru, mae 1 o bob 5 ooedolion yn ysmygu gan achosi 18%o’r marwolaethau ymhlith oedolion achostau o 386 miliwn y flwyddyn i’r GIGa 791 miliwn y flwyddyn i’r economi yngyffredinol.Mae plant sy’n dod i gysylltiad â mwg tybacoyn peri pryder penodol.Mae dau o bob tri unigolyn sy’n ysmygu yn dechraugwneud hynny cyn 18 oed; daw un o bob pumplentyn 10-11 oed i gysylltiad â mwg ail-law.Mae amddifadedd yn ffactor risg mewnperthynas ag ysmygu.Yng Nghymru, mae bron i 1/3 o’r bobl yn y pumedmwyaf difreintiedig o’r boblogaeth yn ysmygu(29%), o gymharu ag 11% yn y pumed lleiafdifreintiedig.Mae mwg ail-law yn cael effaith anghymesur ar iechydbabanod a gaiff eu geni mewn cartrefi incwm is.Beth sy’n gweithio?Mae ymyriadau costeffeithiol i leihau ysmygu yncynnwys gorfodi gwaharddiadau ar hysbysebutybaco; codi trethi ar dybaco; cynnig cwnselai ysmygwyr ac eraill. Gallai helpu ysmygwyr iroi’r gorau iddi leihau costau gofal iechyd.Bob blwyddyn, byddai ysmygwr 25 oed sy’n ysmygullai yn arbed 882 i’r GIG yng Nghymru dros ei oes,a byddai hyn yn cynyddu i 1,592 petai’n rhoi’rgorau iddi.5. Lleihau nifer yr achosion ogamddefnyddio alcoholMae camddefnyddio alcohol yn fygythiadsylweddol i iechyd y cyhoedd yng Nghymruo hyd. Mae’n ffactor sylweddol sy’n achosimarwolaeth a salwch gyda chostau uchel i’rGIG, cymdeithas a’r economi.Mae alcohol yn gysylltiedig â mwy na 6000 oachosion o drais domestig ac yn costio mwy nag 1biliwn mewn niwed i gymdeithasbob blwyddyn.Mae yfed trwm yn cynyddu’rrisg o ddiweithdra a gallaifod yn gyfrifol am fwy na800,000 o ddiwrnodaugwaith a gaiff eu collioherwydd absenoldeb o’rgwaith a bron i 1 filiwno ddiwrnodau gwaitha gaiff eu colli oherwyddcolledion swyddi a chyfleoeddcyflogaeth is yng Nghymru.Y tlotaf gaiff eu heffeithio waethaf gan alcohol.Yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yceir y nifer fwyaf o farwolaethau sy’n gysylltiedig agalcohol.Beth sy’n gweithio?Mae’r “buddsoddiadau gorau”11 i leihauachosion o gamddefnyddio alcohol yn cynnwysymyriadau a pholisïau, megis isafswm pris unedo 50 ceiniog/uned; cyfyngu argaeledd (h.y.lleihau dwysedd allfeydd, oriau a diwrnodaugwerthu); a gwell rheolaeth dros hysbysebu.Mae cyfweliadau cymell cryno ym maes gofalsylfaenol yn ymyriad costeffeithiol.Mae pob 1 a gaiff ei gwario argyfweliadau cymell a rhwydweithiau cymorth ibobl â dibyniaeth ar alcohol yn dychwelyd 5i’r sector cyhoeddus mewn costau iechyd,gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol is.10 Amcangyfrifwyd o ddata’r DU ar sail heb ei addasu y pen11 Ystyried costeffeithiolrwydd, costau gweithredu a dichonoldeb7

Iechyd Cyhoeddus Cymru6. H yrwyddo gweithgarwchcorfforolMae llawer o bobl yngNghymru nad ydyntyn gwneud digon oweithgarwch corfforol12 iddiogelu eu hiechyd. Maebaich anweithgarwchcorfforol yn cynyddu13gyda chostau sylweddoli’r system iechyd a’reconomi ehangach.Bob blwyddyn, mae anweithgarwch corfforol yncostio 51 miliwn i’r GIG a 314 miliwn i’reconomi yng Nghymru yn gyffredinol.Mae anweithgarwch corfforol yn gysylltiedig aganfantais gymdeithasol.Yng Nghymru, nododd 40% o oedolion yn y pumedmwyaf difreintiedig eu bod wedi ymgymryd â llaina 30 munud o weithgarwch corfforol yn ystod yrwythnos flaenorol, o gymharu â 23% yn y pumedlleiaf difreintiedig.Gall cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol: wellallesiant corfforol a llesiant meddwl; helpu i atal arheoli llawer o achosion o salwch; a lleihau’r risg ofarwolaeth gynnar.Beth sy’n gweithio?Mae’r “buddsoddiadau gorau”14 i gynyddulefelau gweithgarwch corfforol yn cynnwysymyriadau a pholisïau, megis ymgyrchoedd yn ycyfryngau torfol; strategaethau trafnidiaethlesol h.y. symud o yrru i gerdded neu seiclo,hyrwyddo gweithgarwch corfforol mewngweithleoedd, ysgolion a chymunedau, a rhoicyngor a chymorth ym maes gofal sylfaenol.Mae ymyriadau cryno ym maes gofal sylfaenol ynfwy costeffeithiol na rhagnodi cyffuriau i leihaulefelau colesterol.Gallai cynyddu lefelau seiclo a cherddedmewn ardaloedd trefol arbed 0.9 biliwn i’rGIG yng Nghymru dros 20 mlynedd16.7. Hyrwyddo deiet iach ac atalgordewdraMae dros hanner yr oedolion yng Nghymru achyfran sylweddol o blant dros bwysau neu’nordew13. Mae baich unigolion dros bwysau agordew yn cynyddu gyda chostau sylweddol i’rsystem iechyd a’r economi.Os bydd cyfraddau unigolion dros bwysau agordew yn parhau i godi, erbyn 2050, bydd hynyn costio 465 miliwn y flwyddyn, i’r GIGyng Nghymru, gyda chost o 2.4 biliwn i gymdeithas a’r economi.Mae bod dros bwysau a gordewdra yngysylltiedig ag anfantais gymdeithasol.OLS C HOYng Nghymru, mae 28.4% o blant ynyr ardaloedd mwyaf difreintiedig drosbwysau neu’n ordew, o gymharu â 20.9% yn yrardaloedd lleiaf difreintiedig.Beth sy’ngweithio?OLMae’r“buddsoddiadaugorau”14 i leihaulefelau deiet afiach yncynnwys ymyriadau apholisïau, megis cyfynguymdrechion i farchnatabwyd a diod afiach i blant;codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddeietau iach;cynyddu trethi ar fwydydd afiach; hyrwyddobwyta’n iach mewn ysgolion a gweithleoedd adarparu cwnsela ym maes gofal sylfaenol.Ar ôl cyflwyno treth o 10% ar ddiodydd wedi’umelysu â siwgwr, gostyngodd nifer y diodydd abrynwyd 6% ar gyfartaledd a 9% mewn cartrefimwy difreintiedig.Gallai cynnig gwasanaethau cwnsela i boblordew ym maes gofal sylfaenol ddarparu 5,700 oflynyddoedd ychwanegol o fywyd mewn iechyd da yflwyddyn yng Nghymru15.12 Yn ymgymryd â gweithgarwch corfforol am 150 o funudau neu fwy yr wythnos.13 Ar gyfer diffiniadau o ‘dros bwysau’ a ‘gordewdra’, gweler y ddogfen Tystiolaeth Ategol.14 Ystyried costeffeithiolrwydd, costau gweithredu a dichonoldeb.15 Amcangyfrifwyd o ddata Cymru a Lloegr ar sail heb ei addasu y pen.8Y SG

Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl Cymru8. D iogelu rhag afiechyd anodi afiechydon yn gynnarMae afiechydon heintus yn faich iechydac economaidd sylweddol yng Nghymru ohyd. Mae cyfraddau HIV a heintiau eraill adrosglwyddir yn rhywiol a rhai heintiau agludir yn y gwaed yn cynyddu.Mae nifer yr unigolion sy’n caeldiagnosis newydd o HIV a gofnodwydledled Cymru wedi cynyddu ers 2012,gyda’r nifer blynyddol uchaf yn ystod y 15mlynedd diwethaf yn cael ei gofnodi yn2014 (189 o achosion newydd).Mae’r costau gydol oes amcangyfrifedig sy’ngysylltiedig ag HIV ar gyfer unigolion sydd wedi caeldiagnosis yn amrywio o 280,000 i 360,000 yn y DU.Amcangyfrifwyd bod pob achos nas cynlluniwyd ounigolion yn cael eu derbyn i’r ysbyty i gael triniaetham ffliw yn costio rhwng 347 a 774 i’r GIG.Mae anghydraddoldebau yn bodoli ar gyfer rhaiafiechydon trosglwyddadwy. Mae 60% o’r achosiono dwbercwlosis yn digwydd ymhlith pobl ddu aphobl o leiafrifoedd ethnig.Mae canser yn ffactor sylweddol sy’n achosiafiechyd a marwolaeth gynamserol yngNghymru, gyda nifer yr achosion newydd ynparhau i gynyddu ymhlith dynion a merched.Roedd canser colorefrol ar ei ben ei hunyn gyfrifol am 1,327 o achosion newydd a528 o farwolaethau mewn dynion a 1,008 oachosion newydd a 399 o farwolaethaumewn merched yn 2014 yng Nghymru.Cyfanswm nifer yr achosion newydd ounrhyw ganser yn 2014 oedd 19,118, sefcynnydd o 14% ers 2005Mae unigolion difreintiedig yn llai tebygol ogymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio o bobmath i oedolion.Ar gyfer 2014/15, cymerodd 41.5% o bobl ranmewn rhaglenni sgrinio’r coluddyn yng Nghymruyn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o gymharu â57.1% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Roeddnifer yr unigolion a gymerodd ran yn y rhaglensgrinio Aniwrysm Aortig yn yr Abdomen yn isymhlith dynion yn byw yn yr ardaloedd mwyafdifreintiedig (67.7%) o gymharu â dynion yn byw ynyr ardaloedd lleiaf difreintiedig (79.5%).Beth sy’ngweithio?Mae brechu yn darparuelw ar fuddsoddiad.Byddai 1.35 yn cael ei ddychwelyd ambob 1 a gaiff ei gwario ar raglen wedi’ithargedu o frechu rhag y ffliw. Byddai’rarbedion yn cynyddu i 12 fesul brechiad os caiffgweithwyr gofal iechyd eu cynnwys.Amcangyfrifwyd bod cost trin y frech goch rhwng 159 a 356 fesul achos, ac roedd cost brechu rhagy frech goch a rheoli’r haint yn amrywio o 0.13 i 0.74 y person yn 2003 ledled Ewrop.Mae gwneud diagnosis cynnar o heintiau ynachub bywydau ac yn arbed costau. Os caiff 1%o gleifion â HIV ddiagnosis cynharach o’r afiechyd,gallai hyn arbed tua 12,114 y flwyddyn i ddynionsy’n cael rhyw gyda dynion a 15,143 y flwyddyn iAffricaniaid du yng Nghymru16.Gall rhaglenni sgrinio ar gyfer canser fodyn gosteffeithiol a gallai nodiachosion yn gynnararwain at gleifion ynbyw’n hirach ac atlai o achosion odderbyniadaubrys i’r ysbytya phrofiondiagnostig.Pe cynyddwydcyfran yr achosiono ganser a gaiffddiagnosis yn ystodcamau cynnar 10%- byddai rhwng 7000a 9000 yn fwy o boblyn goroesi canser am 5mlynedd yn y DU.16 Amcangyfrifwyd o ddata Cymru a Lloegr ar sail heb ei addasu y pen9

Iechyd Cyhoeddus CymruYmdrin â phenderfynyddion iechyd economaidd,cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach9. Lleihau anghydraddoldebaueconomaidd a chymdeithasola lliniaru calediMae anghydraddoldebau economaidd achymdeithasol yn parhau yng Nghymru acyn cael effeithiau negyddol aml-genhedlaethar iechyd a llesiant, gan sbarduno a chynnalanghydraddoldebau iechyd, ymddygiadauafiach a chan ddylanwadu ar genedlaethau’rdyfodol a’u rhagolygon bywyd.Mae nifer uwch na’r cyfartaledd o blant o gartrefidifreintiedig yn marw pan yn fabanod ac maent ynfwy tebygol o fod ag incwm is neu o fyw mewntlodi fel oedolion, gan felly sbarduno cylch dieflig.Mae cyfran uwch o oedolion yn ardaloedd mwyafdifreintiedig Cymru yn marw o ganlyniad i ysmygu achamddefnyddio alcohol o gymharu â’r rheini yn yrardaloedd lleiaf difreintiedig.Mae anghydraddoldeb cymdeithasol yn ataltwf cynaliadwy.Amcangyfrifir bod anghydraddoldebauyn costio rhwng 1.8 ac 1.9 biliwn yflwyddyn i’r economi yng Nghymru o ganlyniadi golledion o ran cynhyrchiant a rhwng 1.1 ac 1.8 biliwn y flwyddyn o ganlyniadi daliadau lles a threthi coll17.Ar y rheini sy’n llai cadarn ycaiff caledi yr effeithiaumwyaf andwyol; megis yrheini â llai o sicrwyddeconomaidd neu iechydcorfforol ac iechydmeddwl gwael.Mae babanod sy’n bywmewn cartrefi lle ceir tloditanwydd (oer a llaith) ynfwy tebygol (o 30%) ogael eu derbyn i’r ysbyty neuwasanaethau gofal sylfaenol.Beth sy’n gweithio?Mae’n debygol mai mynd i’r afael â’rffactorau sy’n achosi anghydraddoldebaucymdeithasol ac economaidd sy’n sbardunoanghydraddoldebau iechyd fydd fwyafeffeithiol. Gall hyn gynnwys ymyriadau i sicrhaucyflog byw, lleihau diweithdra, gwella’r amgylcheddffisegol a darparu gwasanaethau cynhwysol(sy’n hygyrch i bawb) tra’n gwneud buddsoddiadychwanegol hefyd i helpu grwpiau agored i niwed.Gellid atal bron i chwarter (20-25%) o’rmarwolaethau ymhlith pobl ddi-waithdros y cyfnod o 10 mlynedd ar ôl iddynt golli euswyddi pe byddent wedi’u cyflogi.Mae cyflog byw yn gysylltiedig â gwelliannau oran disgwyliad oes, iechyd meddwl, faint o alcohola gaiff ei yfed a gostyngiad mewn cyfraddaumarwolaeth.Mae atal afiechyd drwy’r boblogaeth gyfanyn gyffredinol yn fwy effeithiol wrth leihauanghydraddoldebau iechyd na chanolbwyntioar ymyriadau clinigol.Mae pennu isafswm pris uned ar gyfer alcohol ynlleihau faint o alcohol a gaiff ei yfed ymhlith y grŵpincwm isaf 6% ac yn lleihau cyfraddau marwolaethymhlith yr unigolion sy’n yfed yn drwm mewngalwedigaethau cyffredin/llafur 8%.Gallai buddsoddi mewn dulliau inswleiddio agwresogi er mwyn ymdrin â thai oer a llaithsicrhau arbedion o bron i 35 miliwn i’rGIG yng Nghymru17. Gallai trin cyllid cyhoeddus felmater iechyd y cyhoedd liniarumesurau caledi, h.y. monitroeffaith yr holl ddiwygiadaueconomaidd a lles ar ygwasanaethau cyhoeddusac iechyd y cyhoedd.Gellid gwneud hyn drwyddefnyddio’r Asesiad o’r Effaithar Iechyd18.17 Amcangyfrifwyd o ddata Cymru a Lloegr ar sail heb ei addasu y pen18 Asesu dylanwadau posibl polisïau, cynlluniau a phrosiectau mewn gwahanol sectorau nad ydynt yn ymwneud ag iechyd ariechyd a lles mewn modd systematig10

Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl Cymru10. S icrhau amgylcheddnaturiol ac adeiledigdiogel sy’n hybu iechydMae risgiau amgylcheddolyn cynnwys risgiaugalwedigaethol, llygreddaer awyr agored trefol,dŵr annigoel, mwg dando o danwyddau solet,amlygiad i blwm a newidbyd-eang yn yr hinsawdd. Gallai bygythiad triphlygllygredd aer, iechyd

Martin O'Neill, Athrofa Cymdeithas, Iechyd a Llesiant Caerdydd (CISHeW), Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd John Wyn Owen, Comisiwn Bevan Aaron Reeves, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain Sarah Simpson, EquiACT Ted Schrecker, Y Ganolfan Polisi ac Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Durham

Related Documents:

bunchberry dr nhs wms amb . burgundy ln nhs wms twl . burkwood dr nhs wms amb . burning tree st chs wms twl . burnock dr chs wms mbe . burr ridge rd nhs nms twl . burrwood ave nhs nms ang . burrwood st nhs nms ang . burt dr chs cms lce

of NHS Direct, and led the team preparing New Labour's first White Paper, The New NHS: Modern, dependable, which laid the foundations and structure for the current NHS reform programme. He was a member of the top management board of the NHS for 12 years, between 1988 and 2000. His earlier career included 23 years in NHS management,

, Dr Karen A Adamson (karen.adamson@nhs.net) 3, Dr Scott G Cunningham (scott.cunningham@nhs.net), 2. Dr Alistair Emslie Smith (aemsliesmith@nhs.net) 2, Dr Peter Nyberg (peter.nyberg@duodecim.fi ) 4, Prof. Blair H Smith (b.h.smith@dundee.ac.uk) 2, Dr Ann Wales (ann.wales@nes.scot.nhs.uk) 5, D

BBC Homepage Wales Home BBC Local North West Wales Things to do People & Places Nature & Outdoors History Religion & Ethics Arts & Culture Music TV & Radio Local BBC Sites News Sport Weather Travel Neighbouring Sites Mid Wales North East Wales Related BBC Sites Wales Cymru Gogledd Orllewin Bar

NHS Long Term Plan Implementation Framework I 3 Introduction to the NHS Long Term Plan Implementation Framework 1.1 The NHS Long Term Plan, published in January 2019, set out a 10-year practical programme of phased improvements to NHS services and outcomes, including a

allowances are known as NHS Bursaries’1 and apply to courses qualifying students for certain professions (see Professions with training funded by NHS Bursaries). Students wishing to undertake these courses apply for an NHS bursary instead of Student Finance. NHS Bursaries are award

Dr Ranjit Gill . Chief Clinical Officer . NHS Stockport CCG . John Greenough . Lay Member . NHS Stockport CCG . Louise Hayes . Head of Communications and Engagement NHS Stockport CCG . Diane Jones . Director of Service Reform . NHS Stockport CCG . Dr Deborah Kendall .

that are trading above the highest high that was made over the last 40 trading days or stocks that are trading below the lowest price over the last 40 trading days. For position trading I like to use a longer time frame, but for swing trading I find that 40 day highs and lows provide a good trade time frame for